Yr angen am ymchwiliad cyhoeddus ar unwaith

Dywedwyd lawer gwaith dros y misoedd diwethaf y daw amser i edrych yn ôl ac ystyried ai’r penderfyniadau a wnaed oedd y rhai cywir. Ond, dywedir y dylid gadael hynny i ymchwiliad yn y dyfodol.

Mae’n ymddangos i mi nad yw aros am ymchwiliad o’r un math ag un Chilcot a fyddai’n cael ei sefydlu ar ôl argyfwng Covid-19 ac yn adrodd rhai blynyddoedd yn y dyfodol yn ymateb priodol o dan yr amgylchiadau presennol. Rhaid sefydlu’r ymchwiliad nawr.

Mae hyn yn rhannol gan y gall COVID-19 fod gyda ni am beth amser - felly gallai aros tan fydd yr argyfwng drosodd wthio’r adroddiad terfynol sawl blwyddyn i’r dyfodol. A’r gwir yw na allwn fforddio aros i ddysgu’r gwersi yna, o leiaf y casgliadau interim. Hyd yn oed os ydyn ni’n osgoi ail don dros y misoedd i ddod, heb frechlyn mae’n debygol y byddwn yn wynebu gaeaf anodd arall ac efallai mwy nac un os yw cael brechlyn effeithiol yn profi’n anoddach na’r gobaith. Ac yna mae’r posibilrwydd hyd yn oed mwy pryderus mai yn hytrach na bod SARS yn rhybudd ar gyfer COVID-19, mai COVID yw’r rhybudd ar gyfer rhywbeth hyd yn oed gwaeth.

Rydym angen dysgu gwersi nawr - a’r ffordd orau i wneud hynny yw drwy sefydlu tîm cyfochrog, yn cael ei arwain gan farnwr a’i gefnogi gan arbenigwyr. Tîm a fyddai’n dechrau hyd yn oed nawr i adnabod beth aeth yn dda a beth allai fod yn well yn ein hymateb i’r pandemig byd-eang. Byddai sefydlu ymchwiliad nawr i ymateb Llywodraeth Cymru yn golygu gweithio tra mae’r digwyddiadau yn dal yn fyw yn y cof a gallai casgliadau cychwynnol fod yn barod erbyn diwedd yr haf.

 

Mae’r math o gwestiynau sy’n ganolog yn fy marn i yn cynnwys:

· Pa mor barod oedden ni, a sut allwn ni wneud yn well?

· A gollwyd amser gwerthfawr ers Ionawr, e.e. i gynllunio ar gyfer cyfarpar/profi

· A ddylai’r cyfyngiadau symud fod wedi bod mewn lle yn gynharach?

· Beth sy’n egluro’r gyfradd marwolaethau uwch na gwledydd eraill?

· Oedd yna gyfiawnhad dros ddarfod y profi ac olrhain ym mis Mawrth?

Byddai ymchwiliad cyfochrog yn y DG hefyd yn gallu edrych ar gwestiynau sy’n ymwneud a materion a gedwir yn ôl i’r DG a’r ymateb economaidd. Ond gallai Cymru osod yr agenda drwy gyhoeddi ei hymchwiliad o flaen llaw, gan ddangos esiampl i lywodraeth y DG a fyddai’n gorfod dilyn.

Byddai hynny yn cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd y byddai cwestiynau anodd yn cael eu gofyn, a’u hateb. I ni yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys ansicrwydd parhaus ynglŷn â’r rheswm dros gwymp y cytundeb gyda Roche a wnaeth i Lywodraeth Cymru fethu ac, erbyn hyn, roi’r gorau i’w targedau profi. Ac mae hyn yn bwydo i mewn i gwestiwn ehangach ynglŷn â rhoi blaenoriaeth ddigonol i anghenion Cymru yn y dull ‘pedair cenedl’.

Mae dysgu gwersi er mwyn goleuo ymatebion yn y dyfodol a gwella penderfyniadau hyd yn oed yn y tymor byr yn fwy pwysig na beio. Ond ni ellir gohirio’r gwaith yna. Rhaid i ni ddechrau’n syth.

 



Our privacy policy.
Follow Adam Price on Facebook, Twitter, and Instagram.