Yr achos dros tsar caffael yng Nghymru

Un o’r heriau mwyaf a wynebwn ar hyn o bryd yw cael y deunydd iawn at y bobl iawn yn y meintiau iawn ar yr adeg iawn. Mae’n her logistaidd a chaffael enfawr, ac y mae’r un mor wir am brofi (gan gynnwys rhai o’r cemegolion a’r offer sydd eu hangen), y gwahanol gategorïau o gyfarpar gwarchod personol (CGP), dyfeisiadau meddygol fel peiriannau awyru a’r peiriannau CPAP ac, mewn rhai achosion eisoes, ocsigen.

Yr hyn sy’n gwneud pethau’n seithwaith gwaeth yw’r ffaith bod yr holl fyd yn ceisio caffael yr union un ddeunyddiau – a chafwyd tystiolaeth o leiaf o ‘botsio’ wrth i wledydd geisio cael y gorau ar ei gilydd i fynd i flaen y ciw.

Yng Nghymru, rydym eisoes wedi cael adroddiadau o’r rheng flaen sy’n awgrymu bod prinder difrifol o CGP. A’r disgwyl yw y bydd hyn yn gwaethygu wrth i’r canllawiau olygu y bydd mwy o bobl angen mwy o warchodaeth, a hynny’n amlach. O ran profi, rydym yn cynnal profion ar 1,100 yn unig o bobl y dydd pan oedd Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer 6,000 cyn i’r cytundeb â Roche fynd i’r wal. Beth, felly, allwn ni wneud i helpu i newid pethau?

O ystyried cwmpas a chymhlethdod y dasg o gaffael a natur hanfodol y dasg, rwyf wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru benodi un unigolyn gyda’r awdurdod gweithredol i arwain ymateb Cymru gyfan i gaffael ym mater COVID. Mae’r Democratiaid yn yr Unol daleithiau wedi gwneud galwad debyg am Tsar y Gadwyn Gyflenwi. Galwodd Tony Blair am Weinidog dros Brofi.

Gwnaeth rhai pobl gymhariaeth a phenodi Lloyd George yn Weinidog Arfau Rhyfel yng nghanol y Rhyfel Byd Cyntaf, neu’r Arglwydd Beaverbrook Gweinidog Cyflenwi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond boed yn Weinidog Cyflenwadau Meddygol neu Tsar Caffael, mae’n ymddangos i mi ei bod yn hollol hanfodol yn y cyfnod hwn i gael rhywun o’r tu allan i’r Llywodraeth gyda phrofiad perthnasol mewn rheoli cadwyni cyflenwi neu logisteg, un unigolyn gyda’r grym i wneud penderfyniadau yn sydyn, y gallu i gydgordio ymdrechion ledled Cymru ac ymateb yn greadigol i’r her enfawr hon.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn amheus ar fater Gweinidog dros Brofi i’r DG gyfan. Ond yng Nghymru - o brofion i CGP - dyma’r amser i fod yn anturus, nid yn amheus. Rwy’n gobeithio y bydd yn ymateb yn gadarnhaol i’n hawgrym adeiladol sy’n fater o’r pwys a’r brys mwyaf.



Our privacy policy.
Follow Adam Price on Facebook, Twitter, and Instagram.