Dr Camilla Ducker: Arweinyddiaeth, pryder ac ymddiheuriadau

Mae Dr Camilla Ducker yn feddyg teulu ac yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus. Yma mae hi'n edrych ar sut mae diffyg tryloywder ac ymddiheuriadau ynghyd â negeseuon dryslyd gan arweinwyr yn ystod argyfwng Coronavirus yn effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl.

Dr Camilla Ducker: "Mae’n ofnadwy o drist nad yw’n ymddangos y gall yr un o’n harweinyddion ni ddweud yn syml fod yn ddrwg ganddo"

Dyma amser dieithr a dryslyd, a dweud y lleiaf. Mae effaith COVID-19 yn cael ei deimlo ar bob aelwyd yng Nghymru.

Rai dyddiau’n ôl, adroddodd y BBC am arolwg a gynhaliwyd ym mis Ebrill, oedd yn dweud fod pedwar o bob pump o bobl yn y Deyrnas Gyfunol yn teimlo dan straen, yn bryderus neu yn ofnus am y dyfodol o ganlyniad uniongyrchol i coronafeirws.

Fel gweithiwr clinigol, dyw hyn ddim yn synod i mi o gwbl. Mae pobl yn gorfod aberthu cymaint, a dioddef y fath ansicrwydd. Soniodd llawer am deimlo’n ddiymadferth yn ystod y cyfnod cloi, yn sownd yn eu tai ac yn methu helpu na bod yno i’w hanwyliaid.

Roedd yna dipyn o dynnu coes ar ddechrau’r cloi – pa mor anodd fyddai eistedd ar y soffa am 12 wythnos yn gwylio Netflix? Fel mae’n digwydd, yr ateb yw “anodd dros ben”. Mae’n rhaid dal i ofalu am y plant; mae gwaith angen ei wneud ac i lawer, bydd y gwaith hwnnw’n gorfod cael ei wneud dan amgylchiadau anos o lawer nag arfer. I lawer hefyd, mae cwmwl du colled, galar ac ansicrwydd ariannol. Sydd ddim yn gadael llawer o amser na lle yn eich meddwl i “eistedd o gwmpas”.

Er ei bod yn wir nad yw’r coronafeirws yn parchu ffiniau, nid yw chwaith wedi rhoi pawb ar yr un gwastad.  I’r gwrthwyneb. Mewn gwirionedd, mae wedi gwneud anghydraddoldeb cymdeithasol yn waeth. Dro ar ôl tro, gwelsom y tlotaf yn ein cymdeithas yn dwyn pen trymaf y baich. Mae’r sawl sy’n gweithio mewn swyddi sy’n talu llai yn llai tebygol o fedru gweithio o gartref ac yn fwy tebygol o fod yn agored i’r clefyd. Mae Cymru ei hun yn fwy agored na rhannau eraill y DG oherwydd effaith y cyfnod cloi ar economi bregus. A chan nad ydym eto wedi hyd yn oed ddechrau gweld gwir faint anrhaith economaidd COVID-19, mae hynny ynddo’i hun yn achos pryder i lawer.

Daeth y pandemig yn brawf o un o’r cysylltiadau allweddol sydd gennym oll yn ein bywydau – gyda strwythurau cymdeithasol y wlad. Mae wedi datgelu gwerthoedd, sefydliadau ac arferion, mewn gwaith a gofal, y gellir eu cuddio neu eu hanwybyddu ar adegau normal. Prawf yw hwn o’r berthynas rhwng y wladwriaeth a’i dinasyddion.

Fel poblogaeth, gofynnwyd i ni ymddiried mewn gwleidyddion i raddau mwy nac ar unrhyw adeg y gallaf i gofio. Ac yn fwy nac erioed, mae ganddynt rym uniongyrchol dros ein lles ni a’n teuluoedd. Rhaid i ni ymddiried a chredu eu bod yn wir yn edrych ar ein holau ac yn ymboeni am ein buddiannau, nid yn unig ar lefel genedlaethol ond ar lefel leol hefyd.

Tybed, felly, a yw’r ymddiriedaeth – neu o leiaf y parodrwydd i gadw at benderfyniadau – a ddangoswyd gan y cyhoedd wedi ei barchu. Sut dylen ni deimlo, er enghraifft, pan glywn fod gwledydd eraill yn rhoi blaenoriaeth i gynnal profion, yn dilyn argymhellion SIB, ond y dywedir wrthym ni nad oes angen profion neu nad oes profion ar gael, neu eu bod yn ymwneud â thargedau na chafodd erioed eu cyrraedd? Wrth gwrs, bydd hyn wedi gwneud pobl yn fwy pryderus a dryslyd.

Yn gynnar ym mis Mawrth, dywedwyd wrthym ei bod yn ddiogel lleihau profion yn y gymuned, a hynny wythnos yn unig wedi i ganolfannau profi agor yng Nghymru gyda llawer o gyhoeddusrwydd. Ond ni ddaeth dim yn lle hynny - aeth naw diwrnod heibio cyn cyflwyno rheolau am y cyfnod cloi, ar Fawrth 23. Yn ystod y cyfnod hwnnw, pan oedd arweinyddiaeth bron yn anweledig, amcangyfrifir bellach fod nifer y sawl a heintiwyd yn y DG wedi codi o ryw 200,000 i 1.5 miliwn.

“Trystiwch ni’, medd y gwleidyddion, ac y mae llawer eisiau gwneud hynny; yn enwedig felly pan nad oes modd gweld y bygythiad i’n lles, fel yn achos y coronafeirws. Nid yw’r awydd i ymddiried yn golygu bod yn rhaid i ni feddwl bod ein cynrychiolwyr etholedig yn cael popeth yn iawn drwy’r amser, ond rhaid iddo olygu ein bod yn credu ynddynt i weithredu’n union , a’u bod wedi eu sbarduno gan ymdeimlad o’n lles cyffredinol. Mae’n golygu derbyn ymddiriedaeth pobl, a’u had-dalu yr un modd, trwy fod yn onest ac agored gyda hwy, a thrwy barchu eu deallusrwydd.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, darged o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill. Cafodd y targed ei ddileu a'i wadu yn y pendraw.

Ar ddechrau Ebrill, a sawl gwaith wedi hynny, dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething,  y byddai Cymru’n cynnal  5,000 o brofion COVID-19 y dydd erbyn canol y mis. Ar 15 Ebrill, dywedodd y byddai  5,000 o brofion dros y dyddiau nesaf. Yna gwadodd y bu targed erioed, ar yr un dydd ag y daeth i’r amlwg nad oedd gan Gymru ond y gallu i brofi 1,300.

Hyd yn oed os anwybyddwn anonestrwydd y gwadu neu’r anfedrusrwydd a arweiniodd at fethu ag anrhydeddu ymrwymiadau, dyma enghraifft amlwg o godi gobeithion pobl, ac yn hynny o beth, gellid dweud fod y llywodraeth wedi tarfu’n uniongyrchol ar iechyd meddwl pobl. Os mai eich diffiniad mwyaf sylfaenol o’r hyn mae gwladwriaeth i fod i’w wneud yw gwarchod ei dinasyddion, mae hyn yn amlwg yn fethiant trychinebus.

Yng Nghymru, felly, edrychwn ar wledydd o tua’r un maint i weld sut y gellid gwneud pethau’n wahanol. Yn Seland Newydd, llwyddodd llywodraeth y Prif Weinidog Jacinda Ardern i reoli trosglwyddiad, a gostwng heintiadau newydd i ddim, fwy neu lai, erbyn diwedd Ebrill. Yr un mor arwyddocaol, fodd bynnag, oedd y ffordd y gwnaeth hi, fel llefarydd ei llywodraeth, gyfathrebu gyda’i chydwladwyr. Siaradodd yn uniongyrchol wrthynt, heb geisio osgoi ffeithiau nac wfftio penderfyniadau anodd, fel cloi’r wlad i lawr neu wahardd teithio rhyngwladol.

Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd

Dangosodd Jacinda Ardern y gallwch wneud penderfyniadau da a bod yn gryf heb arddangos dim o’r machismo a’r brolio sydd fel petai’n un o hanfodion ein gwleidyddion ni, yn San Steffan a Chymru fel ei gilydd. Gall yn wir wneud camgymeriadau neu ddewis annoeth - cael tynnu ei llun yn bwyta sglodion ar fainc gyhoeddus, dyweder - ond yn hytrach nac addasu’r rheolau wedi’r weithred i ffitio’i hachos ei hun, mae rhywun bron yn siŵr y buasai’n ymddiheuro, a hyd yn oed yn derbyn maddeuant.

Mae’n ofnadwy o drist nad yw’n ymddangos y gall yr un o’n harweinyddion ni ddweud yn syml fod yn ddrwg ganddo.

Oherwydd i boblogaeth sy’n byw yng nghanol pandemig, ac, yn fwy na thebyg, argyfwng iechyd meddwl hefyd, mae’n anorfod y cawn gam gwag weithiau. Yn ein bywydau bob-dydd, mae’n rhaid i ni ymddiheuro drwy’r amser, dim ond er mwyn bwrw ymlaen fel uned deuluol. Wrth gwrs, does dim modd trawsosod pob agwedd o fywyd y cartref i lefel y wladwriaeth, a ddylech chi ddim gwneud hyn – dyw rhedeg cyllideb genedlaethol ddim yr un fath â rheoli cyllideb eich teulu, i roi un esiampl. Ond dylai un agwedd o fywyd beunyddiol fod yn hollol hanfodol yn y byd ehangach.

Ddylen ni ddim disgwyl i’n harweinyddion fod yn berffaith - a tydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n disgwyl hyn. Yn ystod y pandemig hwn, mae pobl yn ddigon parod i dderbyn nad yw pethau fel y buont. Ond mae’n hanfodol nad yw’n harweinyddion yn meddwl mai ffyliaid ydym. A’u bod yn ymddiheuro pan wnânt rywbeth o’i le. Nid rheidrwydd moesegol yn unig yw hyn, wrth gwrs; mae’n fater o’n lles a’n iechyd meddyliol yn gyffredinol.

Collodd Cymru eisoes fwy o fywydau o achos COVID-19 nac y dylai, a gallwn yn hawdd weld ail don. Os felly, dichon y bydd ein cynrychiolwyr wedi dysgu ambell wers am welyau a gallu, CGP, profi ac olrhain... Dylent ddysgu un wers arall hefyd, a hynny rhag blaen: mae gofal iechyd yn fwy na gofal am y corff. Mae gan wleidyddion ddyletswydd o ofal dros ein hiechyd meddwl hefyd. Yn ffodus, mae modd cyflawni’r ddyletswydd honno yn eithaf syml. Triniwch bobl â pharch. Peidiwch â dweud celwydd wrthynt. Byddwch yn ddigon graslon i ymddiheuro unwaith yn y pedwar amser.



Our privacy policy.
Follow Adam Price on Facebook, Twitter, and Instagram.