Pam blog newydd?

Mae yna amser pan fod angen mynd ymhellach na sylwadau byr ar y teledu neu 280 o nodau twitter. Dim ond erthyglau a darnau hirach all archwilio a mynd at wraidd y materion enfawr yr ydym yn eu hwynebu heddiw. Fe fydd y blog newydd yma yn llwyfan i ysgrifennu am sefyllfa bresennol Covid-19 gan archwilio’r ymateb i bolisi a rhannu syniadau defnyddiol.

Ambell bwynt allweddol am y blog. Fe fydd yn canolbwyntio ar bolisi ac arfer, nid gwleidyddiaeth a phleidiau. Nid lle ydyw i ennill pwyntiau gwleidyddol.

Pan fydd y Llywodraeth yn cael pethau yn anghywir – yma neu yn San Steffan, mi fyddai’n dweud beth sydd angen newid ac yn cyfeirio at dystiolaeth neu wybodaeth arbenigol os bydd angen. Fe fydd y blog yn ymarferol a phositif, ond yn adeiladol a beirniadol lle bo hynny’n briodol.

Mae’n rhaid i’r ffocws fod ar arbed bywydau – ac i helpu gyda materion cymdeithasol ac economaidd eraill sy’n dioddef yn sgil yr argyfwng. Yn hynny o beth, bydd y blog yn adlewyrchu'r dull ehangach rydw i wedi ei gymryd tuag at COVID-19.

 

Yr wythnos yma fe wnes i ymuno a Grŵp Craidd Covid Llywodraeth Cymru, lle fyddaf innau ynghyd ag eraill mewn swyddi uwch yn Llywodraeth Cymru ac mewn llywodraeth leol yn cael ein briffio ar yr ymateb i’r firws. Mae fy mhlaid wedi datgan y byddwn yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw gais i ymuno â Llywodraeth o undod cenedlaethol petai hynny’n digwydd – ond nid dyna beth yw’r fforwm. Yn hytrach, mae’n gorff sydd ddim yn gwneud penderfyniadau ac mi fydd y sesiynau briffio yn gyfrinachol.

 

Serch hynny, mae’n rhoi’r cyfle i mi ddarganfod beth sy’n digwydd ar lefel genedlaethol, i rannu pryderon yn uniongyrchol â’r Llywodraeth ac i rannu syniadau am yr hyn y gallwn fod yn wneud yn wahanol. Oherwydd hyn, rwyf wedi cytuno i ymuno ar yr amod na fydd yn fy rhwystro rhag siarad mas yn gyhoeddus os bydd angen gwneud hynny.

 

Mae fy mhrif rôl yn parhau i fod yn un sydd yn craffu ar y Llywodraeth a’i gwneud yn atebol yn gyhoeddus lle bod hyn yn briodol. Craffu effeithiol yw’r ffordd orau i wella polisi, ac yn yr hinsawdd bresennol mae hynny yn achub bywydau.

 

I’r perwyl hwn fe fyddaf yn cyhoeddi fy ngohebiaeth â Gweinidogion Llywodraeth Cymru yma, ac ar ddiwedd y blog fe allwch ddarllen fy llythyr i’r Gweinidog Iechyd yn ei annog i ddefnyddio cyfleusterau presennol labordai Cymru er mwyn cynyddi capasiti profion Covid19. Mi fydda’i hefyd yn rhannu unrhyw wybodaeth y byddwn yn dderbyn nôl ar ffurf cwestiynau yr ydym yn rhoi i’r Senedd a San Steffan.

 

Mae tryloywder hefyd yn hanfodol i gynnal ymddiriedaeth y cyhoeddi ar yr adeg hon. Mi fydda’i yn gofyn cwestiynau yn wythnosol yn y Senedd ar-lein gan drafod hyn yma. Fe fydda’i yn gofyn i aelodau eraill o’r tîm ac arbenigwyr mewn meysydd gwahanol i ysgrifennu blogiau ar agweddau gwahanol o sut y mae Cymru yn ymateb i’r argyfwng.

Y bwriad hefyd yw rhannu straeon calonogol ochr yn ochr â’r meysydd hynny lle y mae angen i Gymru wella.

Wrth weithio gyda’n gilydd, yn fuan iawn fe all Cymru arwain y ffordd yn ein hymateb i’r argyfwng. Dyma’r ysbryd y byddaf innau yn ymgymryd wrth wynebu her fwyaf fy mywyd.



Our privacy policy.
Follow Adam Price on Facebook, Twitter, and Instagram.