Rhai meddyliau heddiw am y dimensiynau rhyngwladol i’n brwydr yng Nghymru yn erbyn Coronafeirws.
Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi estyn allan at rai gwledydd a allai ein helpu mewn ffyrdd penodol. Dyma grynodeb sydyn:
- Gyda meddygon o Giwba yn helpu yn Lombardy a nifer o wledydd eraill, gofynnais i Lywodraeth Ciwba a fuasent yn agored i anfon dirprwyaeth o Frigâd Feddygol Ciwba i Gymru pe deuai’r angen. Eu hateb hwy oedd y buasent, ac ar ôl holi arweinwyr y GIG yn y maes y buasai hyn yn ddefnyddiol, rhoddais y manylion i swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru.
- Pan gyhoeddodd y fenter gydweithredol Mondragon o Wlad y Basg rai wythnosau’n ôl eu bod wedi cynllunio llinell gynhyrchu allai gynhyrchu miliynau o fygydau CGP, deuthum i gysylltiad â hwy i weld a fuasent yn agored i ni adeiladu’r un llinell gynhyrchu yma. Yr oedd yr ateb yn gadarnhaol, felly rhoddais hwy mewn cysylltiad â’r tîm rhagorol yn Niwydiant Cymru, ac y mae trafodaethau manwl yn cael eu cynnal yn awr.
- Pan dynnwyd fy sylw at fenter hael Llywodraeth Taiwan o roi cyfarpar CGP, ysgrifennais at Arlywydd Taiwan i ofyn a allai ystyried rhoi peth cyfarpar i Gymru. Cadarnhaodd fod miliwn o fygydau eisoes wedi eu rhoi i’r DG, ac yr wyf wedi ceisio cadarnhad y byddwn ni yn derbyn y gyfran sy’n ddyledus i ni.
Yn fwy diweddar, rwyf wedid derbyn cadarnhad gan Lysgennad China fod ei wlad yn barod i helpu Cymru mewn unrhyw fodd y gall. Mae’r cysylltiad hwn yn un arbennig o ddwfn yng nghyd-destun COVID-19. Tybir fod y claf cyntaf i brofi’n bositif am y feirws wedi cael ei drin yn Ysbyty Undeb Wuhan, a sefydlwyd gan y Cymro Griffith John, dros 160 o flynyddoedd yn ôl. Wuhan yw gefeilldref Abertawe yn China oherwydd gwaddol cyfoethog Griffith John a’i wraig yn Nhalaith Hubei. Mae cysylltiadau cryf rhwng ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac Ysbyty’r Undeb, a bu perthynas ddeuffordd o gyfnewid gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol wrth frwydro yn erbyn COVID-19 ers cychwyn y pandemig.
Mae’r syniad penodol o ddynwared Gogledd Iwerddon wrth sicrhau Cyfarpar Gwarchod Personol ychwanegol trwy Lywodraeth China, trwy gyflenwyr yn y wladwriaeth a gweithgynhyrchwyr eraill, yn rhywbeth yr wyf wedi gofyn i’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething i ymchwilio iddo. Rwy’n gobeithio cael gair gyda chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon yn uniongyrchol yr wythnos hon i gael mwy o wybodaeth am eu strategaeth CGP.
Rwyf yn dra diolchgar i bawb ddaeth i gysylltiad â ni, o’r diaspora Cymreig dramor a’r sawl sydd yng Nghymru gyda chysylltiadau rhyngwladol, i gynnig help. Byddwn yn pasio’r holl syniadau a’r awgrymiadau a gawn i Lywodraeth Cymru, yn y gobaith y rhoddir sylw iddynt. Nid yw edrych i gyfeiriad San Steffan, fel y dadleua’r blog hwn gan Global Welsh , yn wastad yn esgor ar y canlyniad a ddymunwn. Felly, mae’n rhaid i ni edrych ymysg ein gilydd A bwrw ein golygon yn ehangach. Y diaspora yw’r bont hanfodol rhwng y ddau safbwynt gwerthfawr hyn.
Gwybodaeth, wrth gwrs, yw’r peth mwyaf gwerthfawr ar hyn o bryd. Yn yr un modd ag y mae meddygon yn rhannu gwybodaeth, mae angen i lunwyr polisi wneud yr un peth. Mae’r Almaen yn Ewrop a De Corea yn Asia yn ddwy wlad sydd wedi llwyddo yn y frwydr yn erbyn y clefyd gyda’u polisïau allweddol o brofi ar raddfa eang. Ond un o nodweddion y pandemig hefyd fu’r nifer o wledydd bychain sydd â chyfraddau isel iawn o farwolaethau yn sgil strategaeth o ddileu’r clefyd yn hytrach na’i gynnwys. Mae Singapore, Hong Kong, Seland Newydd, Georgia a Gwlad yr Iâ - gyda’i gilydd sydd â phoblogaeth dros saith gwaith yn fwy na Chymru - hyd yma wedi cofrestru dim ond 29 o farwolaethau COVID-19 rhyngddynt. Yr wythnos hon, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i ystyried ei strategaeth wedi’r Cloi i Lawr, bydd Plaid Cymru yn cysylltu â’r cenhedloedd bychain hyn i weld sut y gallwn ni yng Nghymru ddysgu gwersi o’r hyn maent yn wneud. Fel y dywedodd y llenor Ffrengig André Gide unwaith - a pha mor briodol ydyw yn y cyd-destun hwn: “Rwy’n caru cenhedloedd bychain. Rwy’n caru niferoedd bychain. Yr ychydig rai fydd yn achub y byd”