Blogiwr gwadd yr wythnos hon yw Dr Llinos Roberts o feddygfa'r Tymbl, Cwm Gwendraeth. Mae Dr Llinos yn poeni'n arw nad yw cleifion a chanddynt glefydau heblaw Covid-19 yn cysylltu â'r syrjeri. Oherwydd hyn y gofid yw meddai, yw bod gwir effaith ddinistriol y firws eto i'w ddod.
Dr Llinos Roberts "Ydy’r ffaith bod y ‘new kid on the block’ wedi ymddangos wedi gwthio popeth arall i’r naill ochr?"
Mae drysau’r syrjeri ar gau ac arwydd mawr yn datgan yn gwbl glir na ddylai unrhyw un gerdded i mewn. Nid y croeso arferol y byddech chi’n ei ddisgwyl yn y feddygfa. Mae’n rhaid ffonio er mwyn cael cyngor meddygol. Neu os ydy’r feddygfa ar flaen y gad gallwch ebostio neu drefnu sgwrs fideo gyda’r meddyg. Ac os ydy hyn yn peri gofid i chi fel cleifion, efallai bod rhyw gysur i wybod bod y drefn yn un newydd i’r rhan fwyaf ohonon ni feddygon teulu hefyd! Ond er bod y drysau ar gau, rydym ni dal yno, yn gweithio’n ddiwyd y tu ôl i’r drysau caeedig.
Ychydig fisoedd yn ôl doeddwn i erioed wedi clywed am covid-19...ond erbyn hyn mae’n rhan mor ganolog o fy mywyd rydw i hyd yn oed yn breuddwydio amdano! Mae’n anodd credu gymaint mae’n bywydau bob dydd wedi newid dros yr ychydig wythnosau diwethaf, a bellach mae’r pethau roedden ni’n eu cymryd yn ganiataol fel mynd i’r gwaith, picio i’r siop, a chyfarfod ffrindiau yn teimlo’n bell iawn o’n cyrraedd. Ond does dim dewis – rhaid addasu, ac mae’n rhyfeddol sut rydym wedi llwyddo i wneud hynny hefyd, a chawn deimlad o falchder wrth weld sut mae meddygfeydd wedi llwyddo i newid eu dull arferol o gynnig gofal meddygol a hynny mewn prin dim amser. Mae colli’r cyswllt agos yna gyda chleifion yn sicr yn anodd, ac mae’n gallu bod yn her i fynd at wraidd problem heb allu darllen iaith corff y claf.....mae cymaint y gellir ei ddehongli o’r pethau nad sy’n cael eu dweud.
Ac mae’r ffôn wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf, a chleifion yn cysylltu gyda phryderon. Ond mae rhan helaeth o’r rhain yn bryderon y ymwneud â covid-19: pobl sydd wedi datblygu symptomau neu’n pryderu am y sefyllfa yn gyffredinol. Dyma yn wir fu diben y rhan helaethaf o’r galwadau i’r feddygfa yn ddiweddar. Mae hyn wrth gwrs i’w ddisgwyl yn yr hinsawdd bresennol. Ond y cwestiwn mawr sy’n codi ydy ‘ble mae popeth arall’? Beth ddigwyddodd i’r problemau meddygol eraill oedd yn llenwi ein dyddiau dim ond ychydig wythnosau’n ôl? Ydy’r ffaith bod y ‘new kid on the block’ wedi ymddangos wedi gwthio popeth arall i’r naill ochr?
Cyn y cyfnod covid-19 roeddwn i a fy nghyd- feddygon teulu yn ymdrin ag o leiaf 30 claf pob diwrnod – rhai yn dod i drafod problemau tymor hir a rhai yn ymweld gyda symptomau nad oedden nhw’n rhai difrifol. Ond roedd carfan arall hefyd, a’r cwestiwn mawr ydy – ble mae’r rhain bellach? Dyma’r garfan oedd yn cysylltu gyda symptomau a allent fod yn ddifrifol – y dyn canol oed gyda phoen yn ei frest oedd yn debyg iawn i ddŵr poeth, y fenyw oedd wedi sylwi ar lwmp caled yn ei bron, y claf oedd yn fyr o anadl ac yn peswch gwaed, y plentyn oedd yn welw iawn ac yn hynod flinedig. Ble mae’r rhain bellach? Oherwydd tydyn nhw ddim yn cysylltu gyda’r feddygfa fel y buon nhw, ac o be dwi’n ei ddeall dydy nhw ddim yn yr ysbyty chwaith. Ydyn nhw’n dewis aros adref er mwyn lleihau straen ar y Gwasanaeth Iechyd? Ydyn nhw’n aros nes bod y symptomau’n gwaethygu cyn codi’r ffôn? Ydy’r neges o gadw draw o’r feddygfa wedi mynd yn rhy bell?
Wrth yrru adref bob nos Iau a phasio pobl allan o flaen eu tai yn cymeradwyo’r gweithwyr iechyd, mae’n amlwg bod pobl Cymru yn teimlo balchder anhygoel yn y Gwasanaeth Iechyd. Ac mae gennym reswm i ymfalchïo ynddo – gwasanaeth sydd wedi ei adeiladu ar seiliau cadarn Aneurin Bevan ac sy’n parhau i fod yn un o lwyddiannau’r ugeinfed ganrif er waethaf pob her. Mae nifer yn cyfeirio at weithwyr y Gwasanaeth Iechyd fel ‘arwyr’, a rhyw deimlad y dylen ni gyd fod yn ‘chwarae’n rhan’ yn y frwydr hon yn erbyn covid-19. Ond tybed ydyn ni rywsut yn disgwyl i gleifion hefyd fod yn ‘arwyr’ ac yn ferthyron? Ai dyna’r neges rydym wedi ei throsglwyddo wrth annog pobl i gadw draw o’r feddygfa? Ydy cleifion yn teimlo rhyw elfen o euogrwydd wrth ystyried codi’r ffôn i drafod mater sydd ddim yn ymwneud â covid-19 ar adeg ble mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gwegian dan bwysau?
Wrth reswm dwi’n gofidio am covid-19. Ond mae gen i ofid arall hefyd, sydd bellach yn fwgan. Ble mae’r cleifion sydd fel arfer yn llenwi fy syrjeri? Wrth i lwch covid setlo, a fyddwn ni yn gweld gwir effaith y feirws ar iechyd y genedl – yr effaith anuniongyrchol o gadw cleifion rhag cysylltu gyda’r meddyg am broblemau eraill oedd efallai yn teimlo’n ‘llai pwysig’ yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Mae angen i’r neges yma gyrraedd cleifion. Ydy, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn wahanol iawn i’n profiad arferol ohono. Ond rydym yn parhau i fod yma ar gyfer pawb – covid-19 neu beidio.
Oherwydd dydy clefydau fel cancr, trawiad ar y galon neu strôc ddim yn dangos trugaredd ar adegau fel hyn, gan gilio i’r naill ochr er mwyn rhoi ‘centre stage’ i covid. Mae nhw dal yno, ac yn parhau i chwarae eu rhan. A phan fydd y llen yn disgyn ar sioe covid-19, a phob encore wedi distewi, bryd hynny y cawn weld gwir effaith ddinistriol y feirws hwn.