Dirgelwch y fargen am brofion aeth i’r wal

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Saesneg yn gyntaf yn y Sunday Times 5.04.2020

Mae natur ein system wleidyddol a’n diwylliant yn golygu fod pleidiau sy’n cystadlu am rym yn cael eu hannog i wrthdaro yn hytrach na chydweithredu. Ond mae’r argyfwng coronafeirws wedi atal ein diwylliant gwleidyddol arferol. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd ar draws pleidiau ac ar draws ffiniau os ydym am gwrdd â her pandemig byd-eang.

Dyna pam yr oeddwn yn falch o ymuno â Grŵp Craidd Covid-19 Llywodraeth Cymru. Er nad yw hwn yn gorff sy’n gwneud penderfyniadau, derbyniais y gwahoddiad er mwyn dangos fy mod yn barod i weithio ar draws ffiniau plaid i geisio amddiffyn ein cenedl.

Rwy’n meddwl y byddai arweinyddion ym mhob gwlad yn y DG yn derbyn nad ydym yn cynnal digon o brofion. O gymharu â gwledydd fel De Corea a’r Almaen sydd wedi rheoli’r argyfwng yn fwy effeithiol, mae cyfradd y profion rydym yn weld ar hyd o bryd ledled Prydain wedi bod yn rhy isel yn rhy hir.

Pam felly ein bod ar y cyrion yn lle ar y blaen? Pam y gwnaed addewidion am ‘gyflymu a chynyddu’ pan mai’r cyfan a welwn yw arafwch a diffyg symud? Pam, a ninnau’n gwybod bod hyn yn rhan hanfodol o’r ateb i wrthweithio Covid-19, yn dal mor ddiffygiol?

Mae Ysgrifennydd Iechyd Lloegr yn dweud mai’r rheswm yw nad oedd gennym mo’r seilwaith na’r arbenigedd.

Ac eto, mae ein hymrwymiad mwyaf diweddar i adeiladu rhwydwaith o labordai mewn prifysgolion, ein hysbytai dosbarth cyffredinol a’n sector gwyddorau bywyd cynhenid yn awgrymu fod y capasiti yno, ond nad oedd digon o ddefnydd yn cael ei wneud ohono. Yn hytrach, yng Nghymru fel yn Lloegr, rydym wedi cymryd agwedd ganoledig, seiliedig ar ein prif labordai iechyd cyhoeddus, sydd yn ei dro wedi creu tagfa o dangyflenwi.

Symudwyd wedyn at y cwmnïau fferyllol mawr fel Thermo-Fisher a Roche.

Yng Nghymru, byddai cytundeb gydag un o’r cwmnïau hynny, Roche, wedi gweld miloedd o brofion newydd bob dydd yng Nghymru. Ond daeth i’r amlwg wedyn fod y cytundeb wedi mynd i’r wal.

Pan chwalodd y cytundeb, chawson ni ddim gwybod enw’r cwmni na’r rheswm dros y chwalu.

Yna daeth yr esboniad o ffynonellau ar lefel uchel yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Whitehall - y sôn oedd fod Roche wedi tynnu’n ôl o’u cytundeb gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cyflenwi eu contract mwy gyda Public Health England.

Gadewch i mi roi effaith chwalu’r cytundeb hwn yn ei gyd-destun. Ar Fawrth 21, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru fod nifer y profion oedd yn cael eu cynnal yn 800 y dydd, ond y byddai hyn yn codi i 6,000 y dydd o 1 Ebrill ymlaen, ac yna i 8,000 erbyn 7 Ebrill ac i 9,000 erbyn diwedd Ebrill.

Fodd bynnag, ar Fawrth 26, dywedodd Prif Swyddog Meddygol y byddai nifer y profion fyddai’n cael eu cynnal yn codi i 1,100 erbyn yr wythnos ddilynol.

Mae hyn yn ddiffyg o 4,900 a 5,000 o brofion y dydd, yn llai na’r hyn a ddisgwylid.

Dyna i chi 5,000 yn fwy o feddygon, nyrsys a gofalwyr a allasai fod ar y rheng flaen, ond, heb brofion, sydd yn gorfod hunan-ynysu.

A dyna lle mae’r dynion a’r menywod dewr hyn eisiau bod - ar y rheng flaen, yn brwydro yn erbyn Coronafeirws ac yn achub bywydau. Ond heb y profion hyn, a, ‘tae’n dod i hynny, heb y cyfarpar gwarchod chwaith, mae llawer yn dal wedi gorfod encilio. A hyn ar adeg, yn ôl Prif Weinidog Cymru, fod 30% o’r aelodau staff y GIG yng Nghymru wedi profi’n bositif am y feirws.

Yn nes ymlaen yn yr wythnos honno, yn y ‘Senedd rithiol’ gyntaf, y dywedodd y Prif Weinidog mai Roche oedd y cwmni. Yn rhyfedd iawn, mae’r cwmni ei hun yn dal i wadu fod unrhyw gytundeb wedi bodoli erioed.

Nid yw Ysgrifennydd gwladol Cymru, y dyn sydd i fod yn llais ein cenedl wrth fwrdd y Cabinet, wedi bod o fawr iws. Dywedodd y dylem oll symud ymlaen.

Ond mae symud ymlaen heb wybod beth aeth o’i le yn beryglus mewn sefyllfaoedd fel y rhain. Nid yn unig y mae tryloywder yn allweddol er mwyn ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd – mae’n arbed bywydau pan fod yn rhaid bod yn agored er mwyn dysgu gwersi.

Nid yw addo cyfran yn ôl y boblogaeth o’r profion sy’n cael eu rhoi gan Whitehall yn ddigon. Mae rhai ardaloedd o Gymru yn waeth na Llundain o ran niferoedd y bobl hŷn gyda phroblemau iechyd sydd yn bodoli eisoes.

Wrth gwrs, pan fydd gennym bolisïau synhwyrol, rhaid i ni weithio gyda’n gilydd. Dyw’r feirws hwn ddim yn parchu ffiniau. Ond rhaid i ni ymateb hefyd i’r sefyllfa leol ar lawr gwlad. Bydd Cymru yn wastad yn gwybod yn well na Whitehall beth sydd orau i Gymru.

Yr hyn sy’n galonogol yw gweld, lle mae bylchau o du’r Llywodraeth, fod ein cymunedau yn eu llenwi.

Dros y dyddiau diwethaf, rwyf wedi bod yn siarad â phrifysgolion ledled Cymru am eu parodrwydd i wneud eu rhan. Ers wythnosau, maent wedi bod yn cynnig eu cyfarpar a’u labordai ar gyfer profion. Nawr mae arnom angen i weinidogion Llywodraeth Cymru fanteisio ar y cynigion hyn.

Wrth gwrs, y peth mwyaf calonogol yw’r hyn a dyfodd i fod yn guro dwylo bob wythnos i ofalwyr. Unwaith eto, yr wythnos hon, sefais wrth fy nrws ffrynt a chlywed llif bychan yn chwyddo’n don o gymeradwyaeth o stryd i stryd.

Ar waethaf y camgymeriadau a’r camau gwag, mae llygedyn o obaith hefyd. Os gallwn ddysgu gweithio gyda’n gilydd, yn gynt, yna gallwn fod yn fuddugol yn erbyn y feirws hwn.



Our privacy policy.
Follow Adam Price on Facebook, Twitter, and Instagram.