Diffyg ‘colli allan’: Yr effeithiau positif o’r cyfnod clo ar iechyd meddwl

Mae Dr Dean Burnett yn niwrowyddonydd ac yn awdur byd-eang. Mae’n dod o Bontycymer yn Nyffryn Garw. Yma mae'n archwilio sut y mae llai o'r teimlad ein bod yn 'colli allan' yn ystod y cyfnod clo yn cael effaith bositif ar ein hiechyd meddwl. 

Er yn annisgwyl mewn cyfnod modern, mae effeithiau hirdymor y cyfnod clo ar y boblogaeth yn gallu ac wedi cael eu rhagweld mewn sawl ffordd. Roedd hi’n gymharol hawdd i weld yr effaith y byddai’r pandemig a’r cyfnod clo yn cael ar iechyd meddwl.

Yn syml, o ystyried faint o gyflyrau iechyd meddwl sy’n deillio o straen, neu’n gwaethygu gan straen, roedd yn ymddangos yn anochel y byddai lefelau cyffredinol problemau a phryderon iechyd meddwl yn codi i fod yn amlwg. Wedi’r cyfan, mae yna lawer o bethau sy’n achosi’r ymennydd brofi straen a phryder – fel colli rheolaeth, trafferthion ariannol, mwy o gyfrifoldebau, cyfyngder, cael gwared ar arferion neu weithgareddau pleserus, unigedd, unigrwydd a llawer mwy. Mae’r pethau yma i gyd yn rhan fawr o fywyd dan glo.

Hyn i gyd heb hyd yn oed gydnabod y ffaith bod gwir berygl yn bodoli, bod firws a allai eich lladd yn parhau i fodoli. O ystyried sut y mae straen yn ymateb lefel-isel ond parhaus i ofn, mae presenoldeb bygythiad dilys fel hyn, heb os, yn peri pryder.

Yn ôl y disgwyl, mae llawer o’r dystiolaeth a gasglwyd yn ddiweddar yn dangos bod iechyd meddwl yn gwaethygu mewn llawer o wahanol gategorïau.

Fodd bynnag, nododd un astudiaeth hynod ddiddorol yn ddiweddar bod dirywiad disgwyliedig wedi bod o ran iechyd meddwl plant, ond nid ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau. Roedd hyn yn syndod i mi, o leiaf, oherwydd byddech chi’n disgwyl i’r gwrthwyneb. Gyda’r holl gynnwrf niwrolegol a hormonaidd sy’n digwydd y tu mewn i ymennydd a chorff person ifanc, byddech chi’n disgwyl mai nhw fyddai mwy tebygol o brofi dirywiad iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo. Ac eto, dyma ni.

Beth yw’r eglurhad am hyn? Beth sy’n gadael i ymennydd berson ifanc osgoi effeithiau iechyd meddwl y cyfnod clo? O bosib mae hyn oherwydd eu bod yn cael mwy o gwsg, rywbeth y mae bach iawn o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael oherwydd yr amserlen ysgol a’u patrymau cysgu cymhleth.

Neu, efallai ei fod ond yn rhywbeth cymharol? Efallai bod iechyd meddwl glasoed mor isel beth bynnag nad yw effaith y cyfnod clo wedi gwneud llawer o wahaniaeth?

Ond dyma bosibilrwydd diddorol arall; gallai fod bod cau cymdeithas yn ehangach, a phopeth mae’n ei gynnwys, wedi bod yn galonogol i’r glasoed. A llawer o bobl eraill o bosib.

Oherwydd y ffordd yr ydym wedi esblygu, mae glasoed yn amser ble yr ydym yn arbennig o sensitif i gael ein cymeradwyo a chael ein derbyn gan ein cyfoedion. Rydym am i bobl ein hoffi ni, ein parchu ni, ac y’n ni am deimlo ein bod yn cael ein cynnwys. Dyna pam y mae bod yn boblogaidd, neu ennill statws mewn rhyw fodd arall, a pheidio cael ein gwrthod mor arbennig o bwysig yn ystod ein harddegau.

Dyw hyn dim yn diflannu pan i ni yn oedolion chwaith, mae ond datblygu i fod yn llai o flaenoriaeth wrth i gyfrifoldebau eraill gymryd drosodd.

Mae hyn yn arwain i’r hyn sydd wedi cael ei labelu fel ‘FOMO: fear of missing out’. Mae’r  syniad fod pobl yn gwneud pethau, yn mwynhau eu hunain, hebddoch chi a’ch bod wedi cael eich gadael allan yn bryder parhaus i nifer o bobol. Heb os, mae cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud hyn yn waeth gan roi’r gallu i ni weld beth mae pawb arall yn gwneud drwy’r amser a’r hwyl y maen nhw yn ei gael hebddo ni. Mae wedi cael ei awgrymu bod hyn yn un rheswm pam fod cyfryngau cymdeithasol yn beryglus i iechyd meddwl pobl ifanc.

Ond os oes yna un peth positif i’r pandemig, mae’r sefyllfa bresennol wedi cael gwared â’r gofid yma i nifer o bobl. Allwch chi ddim poeni eich bod yn colli allan pan fod dim byd yn digwydd. Mae cau’r diwydiant adloniant, hamdden a digwyddiadau yn beth gwael mewn nifer o ffyrdd, ond o safbwynt personol a seicolegol, mae o leiaf yn golygu nad oes dim yn mynd ymlaen i chi heb gael gwahoddiad iddo.

Yn amlwg dyw hyn ddim yn berthnasol i bawb. Mae pob person yn wahanol ac mae ganddynt eu hanghenion a’i niwrosis eu hunain ynghyd â’r hyn sydd yn eu gyrru. Ac mae yna lawer iawn o elfennau negyddol o’r cyfnod clo a fydd, yn ddi-os, yn amharu ein hiechyd meddwl yn gyffredinol.

Serch hynny, ambell waith mae’n help i ganolbwyntio ar y pethau positif, ac os oes yna un elfen o’r cyfnod clo sydd o bosib wedi helpu ar y cyfan, y ffaith iddo wneud i ni deimlo ein bod wedi cael ein cynnwys yn hytrach na’n cau allan yw hyn.

Mae rhyngweithio cymdeithasol mor brin ar hyn o bryd nes bod cyfarfod yn yr awyr agored, cymryd rhan mewn bingo stryd, clapio cymunedol i’r GIG ac unrhyw weithgaredd tebyg yn golygu lefel newydd o werthfawrogiad ac arwyddocâd.

Rydyn ni’n rhywogaeth gymdeithasol iawn yn ôl natur, y mwyaf cymdeithasol o bosib ar y ddaear, ac mae’r syniad ein bod ni yn cael ein heithrio a’n gadael allan gan gyfoedion yn annymunol yn reddfol ac yn achosi straen. Ond, gall gwybod ein bod ni gyd yn yr un cwch – cwch lle nad oes fawr o ddim yn digwydd, fod yn rhyfedd o galonogol.

Heb os, mae’n gysur bach yn yr amseroedd anodd hyn. Ond, mae’n well na dim.

 

Fe allwch wylio Dr Dean Burnett ac Adam Price yn trafod sut y mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar ein bywydau ar Facebook, Twitter a YouTube Nos Sul Mehefin 21 am 7.30pm. 

 



Our privacy policy.
Follow Adam Price on Facebook, Twitter, and Instagram.