Archippus Sturrock: Dylasai celfyddyd a diwylliant fod wedi bod wrth galon ymateb y llywodraeth i’r pandemig

Colofnydd gwadd yr wythnos hon yw Archippus Sturrock, bardd o Gymru ac ymgynghorydd ar faterion diwylliannol i Ysgrifennydd Diwylliant cysgodol yr SNP yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn wreiddiol o Eglwys y Drindod, Sir Fynwy, mae bellach yn byw yng Nghaeredin. 

 

 

 

Mae’r strydoedd yn wag. Mae bysus gweigion yn teithio ar hyd ffyrdd anarferol o dawel. Ac y mae’r ychydig rai a fentrodd allan i gael nwyddau i’w cypyrddau yn mynd o’r tu arall heibio pan welant rywun yn dod yn nes. Ers wyth wythnos yn awr, y cyfnod cloi fu ein annormal newydd. 

A chyda’n hynysu newydd, daeth rhwystredigaeth a mewnwelediad. Ni fu gwead ein cymdeithas erioed mor frau; ond ar y llaw arall, daethom i werthfawrogi fwyfwy y gweithwyr hynny sy’n ein cadw i fynd a’n cadw’n fyw. Dyma’r gwirioneddau ddaw i flaenau ein meddyliau bob nos Iau wrth i ni groesi trothwy ein caethiwed a dod ynghyd fel cymuned i glodfori ein gweithwyr hanfodol.

Serch hynny, mae un gweithiwr allweddol, fu’n bresennol trwy gydol yr argyfwng hwn, wedi ei anwybyddu i raddau helaeth gan y llywodraeth.

Sôn ydwyf, wrth gwrs, am yr artist.

All yr un ohonom wadu i ni geisio, yn ystod y cyfnod cloi, gael cysur mewn llyfr; anogaeth mewn cerddoriaeth; neu ddihangfa mewn ffilm. 

Does dim modd dychmygu byd heb farddoniaeth, heb gan na heb sinema - fyddai dim modd byw mewn byd felly. Buasai cyfnod cloi heb y celfyddydau wedi bod yn artaith. Ac eto, er ein bod yn croesawu cefnogaeth ariannol i’n hartistiaid a’n sefydliadau diwylliannol, paham na roddwyd y celfyddydau yn solet ochr yn ochr ag iechyd a lles yn strategaeth y llywodraeth i oroesi argyfwng coronafeirws?

Onid oedd lle’r celfyddydau yng nghalon y cyhoedd yn hollol amlwg pan ganwyd galarnadau o falconïau’r Eidal a Sbaen, a’n cyrraedd ni yma? Oni welsom yr un peth pan wnaeth Cymru nid yn unig gymeradwyo ein gofalwyr, ond hefyd – yn unol â’n traddodiad corawl – seinio cân iddynt? Ar ddydd Llun y Pasg y seiniwyd ar y cyd eiriau’r hen iaith: ‘Gwlad beirdd a chantorion’. Geiriau sydd, ond ychydig wythnosau yn ddiweddarach, yn methu ag atseinio ym mholisi’r llywodraeth. 

 

Y tu hwnt i’n cymdogion yn Lloegr, yn Ffrainc fe ddaeth y cyfnod cloi yn gynt ac yn llymach. Mae cwestiynau ynghylch effaith y cloi ar les ac ar ymlyniad eisoes yn cael eu gofyn ar draws yr ynysoedd hyn. Fe wyddai Gweinidog Diwylliant Ffrainc Franck Riester — oedd ymysg un o’r seneddwyr cyntaf i gael diagnosis o coronafeirws — yn fuan iawn pa mor bwysig fyddai rhoi diwylliant wrth galon y modd y byddai Gweriniaeth Ffrainc yn mynd i’r afael â’r pandemig. 

Gyda’u hymgyrch #CultureChezNous (#DiwylliantGartref) cynigiodd llywodraeth Ffrainc y cyfle i gysylltu neu ail-gysylltu â diwylliant Ffrainc yn ystod yr hyn oedd  - i bobl Ffrainc - yn un o’r cyfnodau cloi llymaf yn Ewrop. Gan ddwyn ynghyd bron i 700 o weithiau diwylliannol gan dros 500 o artistiaid, fe roes Ffrainc i’w phobl gyfle am ddarganfod a difyrrwch trwy gyfrwng arddangosfeydd ac amgueddfeydd rhithiol, ffilmiau, rhaglenni dogfen, podlediadau, darnau theatrig, llyfrau, gemau fideo ac arferion artistig eraill i fod yn gwmni iddynt trwy’r confinement.

Yma, ar ochr arall y Sianel, ychydig iawn o sylw a gafodd camau tebyg. Yr unig dro y cafodd y celfyddydau’n unrhyw amlygrwydd o ran polisi cyhoeddus oedd wrth drin materion yr economi a chyllid. Allwn ni ddim fforddio i greadigrwydd fod yn ôl-nodyn mewn deddfwriaeth. Ac yn sicr nid yng ngwlad beirdd a chantorion. Fu grym arwyddocaol diwylliant erioed mor amlwg. Ac eto, ni fu dychymyg ar ran ein llywodraethwyr erioed mor enbyd o brin.



Our privacy policy.
Follow Adam Price on Facebook, Twitter, and Instagram.