POBOL NORMAL gan Geinor Styles

Blogiwr gwadd yr wythnos hon yw Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg, Geinor Styles. Yma mae hi'n myfyrio ar yr argyfwng y mae'r Celfyddydau yng Nghymru a'r gweithwyr o fewn y sector wedi'i wynebu yn ystod argyfwng Coronavirus.

POBOL NORMAL gan Geinor Styles

Mewn galwad ‘zoom’ ddiweddar gyda ffrindiau, mae’r sgwrs yn dechrau gyda ni’n gwneud yn siŵr ein bod yn iawn, yn enwedig y rhai sydd yn gweithio ar linell flaen y gwasanaeth iechyd. Mae hanner ohonom yn gweithio ym myd y celfyddydau a’r hanner arall i’r gwasanaeth iechyd.

Mae’r doctoriaid a’r nyrsys yn ein grŵp yn disgrifio’r sefyllfa lle bu’n rhaid iddyn nhw fenthyg gogls diogelwch wrth adrannau cemeg mewn ysgolion uwchradd ynghyd a gwisgoedd diogelwch cafodd eu casglu o wasanaethau traffyrdd ar yr M4. Mae’n gywilyddus.

“Sain deall pam ei bod nhw ddim jest yn cerdded mas os and oes ganddynt offer diogelwch,” rwy’n mynnu’n ddigon swta.

Yna mae un o’r doctoriaid yn dweud wrtha i na fydde nhw’n breuddwydio rhoi’r gorau iddi. “Dyma’r proffesiwn o’i dewis ac maen nhw’n angerddol amdano. Mae gofalu am bobol yn eu DNA”.

Mae’r sgwrs yn symud o’r heriau dyddiol i’r ofn am ail don o’r firws, ac mae’r sgwrs yn tawelu wrth i ni gyd lyncu’r ffaith anochel yma.

Pobol normal yn gweithio mewn amseroedd abnormal.

Rydym ni, yr artistiaid, yn cadw’n dawel. Dyw hi ddim yn teimlo’n addas i danlinellu ein gofidiau. Er ein bod, dros yr wythnosau diwethaf, wedi gweld tranc ein diwydiant, ein hangerdd. Mae ansicrwydd beth fydd yn weddill o theatr yn ein bwyta ni.

Moment o 'Eye of the storm' - un o'r nifer o gynyrchiadau teithiol gan Theatr na nÓg

Mae delweddau o awditoria gyda phob trydedd sedd yn cael eu tynnu allan yn edrych fel lleoliad diffaeth sydd ar ei ffordd i gael ei drawsnewid yn dafarn Weatherspoons. 

Yn ystod yr adeg yma, fel cyfarwyddwr cwmni theatr na nÓg sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, rwyf wedi canolbwyntio ein cyllid presennol ar gynllunio ar gyfer pob posibilrwydd. A fyddwn yn gallu llwyfannu unrhyw berfformiadau byw o dan y mesurau pellhau cymdeithasol presennol?

Sut ydyn ni’n darparu’n ddiogel ar gyfer 5,000 o blant sydd wedi ymrwymo i weld ein sioe Hydref yn Theatr Dylan Thomas yn Abertawe?

A fydd theatrau yn gallu derbyn ein taith nesaf? A fydd y theatrau yn ail agor?

Hyn i gyd tra fyd mod yn creu cynllun i addasu ein cynyrchiadau i fynd ar-lein. Fodd bynnag, y peth sy'n miniogi ein ffocws fwyaf yw'r actorion, dylunwyr, technegwyr ac awduron llawrydd. Maen nhw nawr mewn sefyllfa lle does ganddyn nhw ddim bywoliaeth.

Mae sgyrsiau diweddar gyda nhw yn llawn anobaith ac euogrwydd. Anobaith achos ei bod yn teimlo na fydd ganddynt bwrpas os na allant greu. Euogrwydd am feddwl hyn mewn amser pan mae doctoriaid a nyrsys yn rhoi eu bywydau mewn perygl er mwyn cadw eraill yn fyw.

Yna mae’r artistiaid hynny yn dal eu hunain yn dweud “Wel, dylwn i ddim cwyno, dyw e ddim fel ydym ni’n achub bywydau”.

Na, dy ni ddim.

Nol ar yr alwad Zoom ac mae rhywun yn newid naws y sgwrs drwy ofyn “Ych chi wedi gweld ‘Normal People?”, “Ydw, mae’n wych! Mae’r actorion yn rhagorol a pherfformiadau anhygoel.”.

Mae hyn yn cael ei ddilyn gan ganmoliaeth i gyfres ddrama HBO ynghyn ag Iddewon Uniongred (Orthodox Jews?) yn Efrog Newydd neu olyniaeth mogwl cyfryngau llygredig. Mae rhywun yn sôn am y fersiwn ar-lein newydd o “Here Comes the Sun” gan Gerddorfa Genedlaethol y BBC, pa mor wefreiddiol yr oedd a pha mor lwcus yr ydym ni i gael y math yma o dalent ar ein stepen ddrws.

Wrth i fywyd normal gael ei ohirio, rydym ni’n trochi ein hunain ym myd y celfyddydau.

Ni ddim yn arbed bywydau na, ond yn gwneud bywyd gwerthu ei fyw.

Pan oeddwn i'n blentyn, rwy’n cofio cael fy swyno gan ‘The Red Shoes’. Yn gyntaf gan stori'r tylwyth teg ac yna'r ffilm. Ni all cymeriad Moira Shearer roi'r gorau i ddawnsio. Fe wnaeth  Michael Powell, cyd-gyfarwyddwr y ffilm enwog honno egluro fod y stori ynglŷn â “Marw dros gelf” a’i bod hi’n werth aberthu ein bywyd dros y celfyddydau.

Hwn oedd ei galwad, doedd ganddi ddim dewis. Roedd yn ei DNA.

Ond mae hyn ynom ni gyd. Gallwn ddarganfod lloches mewn unrhyw gelfyddyd a gallwn ni gyd gymryd rhan mewn rhyw fodd boed hynny drwy ysgrifennu llyfr, chwarae offeryn, peintio llun, gwinio, gwau neu bobi. Mae pob un ohonynt yn ffurfiau celf greadigol sydd â'r pŵer i'n cadw'n fyw. Gall fod yr union aer y maent yn ei anadlu. Dyma'r hyn sy'n ein gwneud ni'n ddynol. Allwn ni ddim ei helpu. Mae yn ein DNA.

Wrth gwrs, mae rhai yn gweithio mewn canolfan alwadau, neu’n fydwragedd neu'n dechnegwyr deintyddol. Beth bynnag yw’r alwad, fe fydd y genyn creadigol hwnnw yn eu cadw i fynd.

Ond ble allwn ni fynd i ymarfer y gelf hon, i'w rhannu ag eraill y tu hwnt i'r sgrin fach? Bob wythnos rydym yn clywed y newyddion am y sefydliadau theatr wych yn Llundain ar fin cau gyda rhai eisoes wedi gwneud yn barod.

Fel sy’n digwydd mor aml, fe fydd Cymru yn dilyn.

Neu a fyddwn ni?

Theatr y Glowyr, Rhydaman - un o'r sawl sefydliad celfyddydol a dyfodd o awydd i bawb gael mynediad at y celfyddydau.

Yma yng Nghymru, mae gwahaniaeth amlwg -  tyfodd llawer o'n ‘sefydliadau’ o'r gymuned. Tyfodd y Neuaddau Lles a  Sefydliadau'r Glowyr o awydd allgarol i bawb gael mynediad at gelf, llenyddiaeth a cherddoriaeth -  a’r gweithwyr yn y pentrefi hynny o amgylch Cymru gyfrannodd at y datblygiadau a’r twf yma fel Y Stiwt, Glowyr Coed Duon a’r Neuadd Les yn Ystradgynlais. Mae’r rhestr yn un hir a pan nes i ymuno a Theatr Gorllewin Morgannwg yn 1990 fel rheolwr llwyfan, dyna oedd ein cylchdaith ac mae’n parhau hyd heddiw.

Ond am ba hyd?

Gyda chymaint o theatrau bellach yn y broses o ddiswyddo gweithwyr, a fyddwn yn dilyn Lloegr ac yn gweld y canolfannau diwylliant hyn yn marw ar y winwydden neu a fyddwn yn buddsooddi ac yn ail edrych ar y sefydliadau yma nid yn unig fel llefydd adloniant, ond fel canolfannau i’r gymuned ymgynnull unwaith eto i fod yn fannau o lawenydd a hafanau cysur wrth i ni ddod i delerau a’n “normal newydd”?

 

Rwy'n gweld hwn fel cyfle i newid ac i beidio â negyddu'r gwaith anhygoel y mae cymaint o sefydliadau celfyddydol Cymru wedi'i gyflawni ers degawdau ar yr adnoddau lleiaf posibl, ond i adeiladu ar yr ymrwymiad a'n diwylliant a'n hanes amrywiol ac unigryw.

Rwy’n credu’n gryf hefyd y bydd y celfyddydau yn darparu datrysiad cryf i’r sefyllfa yma drwy gyd weithio a chyd-greu a dod a gwerth i fywydau pobol.

Wedi’r cyfan, pobol normal ydym ni gyd gydag angerdd a bywoliaeth sy’n sicrhau angenrheidiau bywyd.

 

Mae Theatr na nÓg, sydd wedi'i wreiddio yng nghymoedd De Cymru, wedi bod yn gleient cyngor y celfyddydau a ariennir gan refeniw ers bron i 40 mlynedd. Ei waith yw cynhyrchu theatr broffesiynol ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt yn Gymraeg a Saesneg.



Our privacy policy.
Follow Adam Price on Facebook, Twitter, and Instagram.